Cyflwyniad

1.    Pwrpas y papur hwn yw cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig ynghylch Entrepreneuriaeth Ieuenctid yng Nghymru i'r Pwyllgor Menter a Busnes. 

2.    Rydym wedi ymrwymo i sefydlu diwylliant entrepreneuraidd yng Nghymru drwy Gynllun Gweithredu'r Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid (YES), strategaeth ar y cyd rhwng yr Adran Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a'r Adran Addysg a Sgiliau. 

3.    Rydym yn canolbwyntio ar gyflawni'r camau gweithredu o fewn YES i hyrwyddo gwerth entrepreneuriaeth ac i helpu pobl ifanc â chyfleoedd dysgu entrepreneuraidd a'r rhai sydd am ddechrau busnes.

4.    Mae YES yn hyrwyddo gwaith partneriaeth gyda phobl ifanc, busnesau, addysg a sefydliadau cymunedol a thrydydd sector.

Hyrwyddo Entrepreneuriaeth Ieuenctid

5.    Mae Cynllun Gweithredu YES bellach yn ei drydedd flwyddyn, ac yn gweld cynnydd da iawn.  Cyhoeddir diweddariad blynyddol ar wefan Syniadau Mawr Cymru, yn rhoi manylion am y cynnydd yn erbyn bob un o'r deg Cam Gweithredu Allweddol, allbynnau, mesurau effaith a cherrig milltir allweddol

6.    Mae Entrepreneuriaeth Ieuenctid yn cael ei hyrwyddo'n benodol drwy wefan Syniadau Mawr Cymru a chyfryngau cymdeithasol.  Mae rhwydwaith o saith Hyrwyddwr Entrepreneuriaeth Busnes yn hybu entrepreneuriaeth ac yn rhoi arweiniad ynghylch polisi entrepreneuriaeth. 

7.    Rydym yn dathlu ac annog entrepreneuriaeth yn ystod Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd yn flynyddol, gan annog pobl o bob oed i roi eu syniadau busnes ar waith, a chodi ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael i fusnesau newydd yng Nghymru.

Cyflawni Entrepreneuriaeth Ieuenctid

8.    Mae’r gwaith o gyflawni Entrepreneuriaeth Ieuenctid yn unol ag ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu i hyrwyddo twf economaidd a darparu swyddi i bobl ifanc. Mae'n ceisio sefydlu diwylliant o entrepreneuriaeth yng Nghymru; cynyddu nifer y cwmnïau bach sy'n cael eu creu yng Nghymru er mwyn helpu i adeiladu sector preifat mwy mentrus; cefnogi ffurfiau amgen o fenter, ac annog mwy o bobl ifanc i ennill y sgiliau angenrheidiol i ddatblygu potensial Cymru ar gyfer twf economaidd.

9.    Ar ddechrau'r daith Entrepreneuraidd, mae YES yn gweithredu fel porth a dolen at gymorth menter prif ffrwd sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru a'r sectorau cyhoeddus a phreifat ehangach.

10. Ystyriwyd argymhellion yr Adroddiad Microfusnesau, barn yr Hyrwyddwyr Entrepreneuriaeth Busnes a thrafodaethau gan Banel y Cynllun Gweithredu YES wrth gyflawni gwasanaethau Entrepreneuriaeth Ieuenctid sy'n canolbwyntio ar:

·         Bobl ifanc 16-24 oed, ond gan ymgorffori gweithgareddau peilot ar gyfer grwpiau oedrannau iau, gan gynnwys prosiect ar gyfer ysgolion cynradd;

·         Profiadau a chyfleoedd menter ymarferol, arloesol, gan gasglu cefnogaeth busnesau, yn arbennig Cwmnïau Angori, i gynorthwyo entrepreneuriaeth ieuenctid;

·         Tynnu ar brofiad entrepreneuriaid i ysbrydoli pobl ifanc ac annog agwedd gadarnhaol i fynd amdani;

·         Cydlynu gweithgarwch ar sail ranbarthol, gan gysylltu â datblygiadau economaidd ehangach ee Busnes Cymru, er mwyn darparu llwybr clir i bobl ifanc gymryd y camau nesaf tuag at entrepreneuriaeth/dechrau busnes;

·         Defnyddio www.SyniadauMawrCymru.com fel ffordd cost effeithiol a chynaliadwy o gyfathrebu'n effeithiol â phobl ifanc a sefydliadau partner;

·         Symleiddio strwythurau ariannu i leihau costau gweinyddu, gan wella gwerth am arian drwy arbedion maint.

Mesur Effaith

11.Newid Agweddau - mae 55% o bobl ifanc dan 25 bellach ag uchelgais i fod yn hunan gyflogedig a bod yn feistri ar eu hunain, wedi codi o 42% yn 2004 (Arolwg Omnibws Cymru 2012).

12. Entrepreneuriaeth Cyfnod Cynnar a Dechrau Busnes – Dangosodd Adroddiad Monitor Entrepreneuriaeth y Byd 2011 bod gweithgarwch entrepreneuraidd cyfnod cynnar yng Nghymru yn 2011 yn 8.1 y cant, sy'n uwch na'r cyfartaledd yn y DU sef 7.6 y cant.

13. Yn galonogol, roedd cyfradd gweithgarwch entrepreneuraidd cyfnod cynnar oedolion ifanc rhwng 18 a 29 oed yn parhau i godi yn 2011. Mae'r gweithgarwch entrepreneuraidd cyfnod cynnar ymysg y grŵp oedran hwn bron wedi treblu yng Nghymru o 3.4 y cant yn 2002 i 9.7 y cant yn 2011.